Rebekah Brooks a'i gwr Charlie
Fe fydd cyn brif weithredwr News International, Rebekah Brooks a’i gŵr Charlie Brooks yn cael eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn ystod yr helynt hacio ffonau.

Mae’r cwpl wedi beirniadu penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron mewn datganiad ac yn dweud y byddan nhw’n gwneud datganiad pellach ar ôl dychwelyd o orsaf yr heddlu.

Fe fydd pedwar o bobl eraill hefyd yn cael eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder mewn cysylltiad a’r ymchwiliad sef ysgrifennyddes Rebekah Brooks, Cheryl Carter a Mark Hanna, pennaeth diogelwch yn News International.

Mae’r cyhuddiadau’n cynnwys cynllwynio i gelu deunydd rhag ditectifs Scotland Yard, cynllwynio i symud saith bocs o ddeunydd o archifau News International a chynllwynio i gelu dogfennau, cyfrifiaduron ac offer electroneg rhag ditectifs.