Rebekah Brooks gyda Rupert Murdoch
Fe fydd cyn brif weithredwr News International, Rebekah Brooks yn clywed heddiw a fydd hi’n cael ei chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn ystod yr helynt hacio ffonau.

Fe fydd Rebekah Brooks a chwech o bobl eraill – gan gynnwys ei gŵr Charlie, ei hysgrifennyddes Cheryl Carter, a phennaeth diogelwch News International, Mark Hanna – yn cael clywed beth fydd eu tynged heddiw.

Mae disgwyl i Wasanaeth Erlyn y Goron wneud cyhoeddiad am 10 bore ma.