Andy Coulson
Wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson prynhawn ma, mae cyn gyfarwyddwr cyfathrebu David Cameron wedi wfftio honiadau ei fod wedi cadw dyddiadur yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Wrth gael ei holi gan Robert Jay QC ar ran yr ymchwiliad, dywedodd Andy Coulson nad oedd wedi cadw dyddiadur rhwng 2007 a 2010 pan adawodd Downing Street, ond ei fod wedi gwneud “cofnodion” fel rhan o’i swydd.

Dywedodd hefyd ei fod wedi “mwynhau” gweithio i Rupert Murdoch nes iddo gael ei orfodi i ymddiswyddo fel golygydd y News of the World pan gafodd y newyddiadurwr Clive Goodman ei gyhuddo o hacio ffonau.

Dywedodd Andy Coulson bod Murdoch yn “gefnogol” ond nad oedd eisiau “gwneud gormod” o’r berthynas rhyngddyn nhw.

Roedd Rebekah Brooks yn ffrind, meddai, ond “dydyn ni ddim wedi siarad ers peth amser am resymau amlwg.”

Ychwanegodd  bod y News of the World yn cefnogi’r Blaid Lafur yn ystod ei gyfnod fel golygydd ac nad oedd wedi cael ei “wthio” i ddilyn trywydd arbennig.

Roedd George Osborne wedi cynnal trafodaeth gyda Andy Coulson ynglŷn â swydd y cyfarwyddwr cyfathrebu ym mis Mawrth 2007 – deufis ar ôl iddo ymddiswyddo o’r NotW.

Bu trafodaethau wedyn gyda David Cameron.

Dywedodd bod Guto Harri hefyd wedi cael trafodaeth gyda Cameron ynglŷn â’r swydd cyn i Coulson gwrdd â George Osborne, meddai.