George Osborne
Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydd banciau yn gorfod talu £800 miliwn ychwanegol mewn trethi eleni.

Dywedodd y Canghellor George Osborne ei bod hi’n iawn fod y banciau yn gwneud “cyfraniad teg”.

Mae’r golygu y bydd y trysorlys yn codi £2.5 biliwn drwy drethu’r banciau eleni, ar ôl penderfynu cael gwared ar y gyfradd trethu is.

Roedd y banciau wedi gwneud yn well na’r disgwyl dros y flwyddyn ddiwethaf ac felly doedd dim angen lleihau’r baich ariannol arnyn nhw, meddai George Osborne.

“Mae’n rhaid i’r banciau wneud cyfraniad teg er mwyn leihau’r diffyg ariannol,” meddai.

Bonwsau

Cyfaddefodd George Osborne ar raglen Today Radio 4 nad oedd wedi dod i gytundeb gyda’r banciau ynglŷn â lleihau bonwsau bancwyr.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai rhoi gwybod i fanciau faint y byddwn nhw’n cael eu trethu yn ei gwneud hi’n haws dod i gytundeb.

“Rydw i’n parhau yn ffyddiog y bydd hi’n bosib dod i gytundeb â’r banciau ynglŷn â chynyddu benthyciadau i fusnesau bychain a hefyd sicrhau bod bonwsau yn is eleni na’r llynedd,” meddai.

Dywedodd canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, bod cyhoeddiad George Osborne yn “ddiddim” ac yn “dangos ôl brys”.