Mae’n bosib bod rhechfeydd dinosoriaid anferth wedi cynhesu’r blaned, yn ôl gwyddonwyr.

Maen nhw wedi bod yn amcangyfrif allbwn methan rhai o’r dinosoriaid mwyaf, gan ddod i’r casgliad ei fod yn sylweddol.

Amcangyfrif y gwyddonwyr yw bod y dinosoriaid yn cynhyrchu tua 520 miliwn tunnell o nwy bob blwyddyn.

Mae’r ffigwr yn seiliedig ar astudiaethau a wnaethpwyd am rechfeydd da byw.

Tyb y gwyddonwyr yw bod y nwy yn rhannol gyfrifol am yr hinsawdd boeth 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae gwyddonwyr o Brifysgol John Moore Lerpwl, Prifysgol Llundain a Phrifysgol Glasgow wedi cyhoeddi eu canlyniadau yn y cylchgrawn Current Biology.

Mae ymchwil blaenorol wedi dod i’r casgliad bod y Ddaear tua 10C yn gynhesach yn y Cyfnod Mesosõig.

“Mae gwartheg heddiw yn cynhyrchu tua 50-100 miliwn tunnell o nwy bob blwyddyn,” meddai David Wilkinson o Brifysgol John Moore Lerpwl.

“Nid dinosoriaid oedd yr unig ffynhonnell methan yn ystod y Cyfnod Mesosõig felly mae’n debygol bod lefelau methan yn llawer uwch nag ydyw heddiw.”