Claire Squires
Daeth cannoedd o bobl i angladd dynes fu farw wrth redeg Marathon Llundain.

Mae cefnogwyr Claire Squires, 30 oed, wedi casglu dros £1 miliwn ar gyfer elusen y Samariaid ers ei marwolaeth.

Daeth tua 700 o aelodau o deulu, ffrindiau a chefnogwyr Claire Squires i Eglwys Sant Andrew yng ngogledd Kilworth yn Sir Gaerlŷr i ddathlu ei bywyd.

Roedd y triniwr gwallt wedi llewygu wrth iddi gyrraedd llinell derfyn y marathon ar 22 Ebrill.

Dywedodd Catherine Johnstone, prif weithredwr y Samariaid: “Mae teulu a ffrindiau Claire yn hynod o falch ohoni, roedd hi’n berson oedd yn rhoi pobl eraill cyn hi ei hun.

“Hoffwn ni ddiolch i’r miloedd o bobl sydd wedi cyfrannu er cof am Claire.

“Dywedodd Chad Varah, sylfaenydd y Samariaid bron i 60 mlynedd yn ôl, bod y Samariaid yn ymwneud â phobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin. Dwi’n credu bod y 10 diwrnod diwethaf wedi dangos pa mor anghyffredin oedd Claire. Fe fydd colled fawr ar ei hôl.”