Byrgyr
Mae astudiaeth newydd yn dweud bod bwyd sothach yn effeithio ar ymennydd babanod.

Mae’r astudiaeth yn nodi bod deiet gynnar sy’n llawn braster a siwgr yn cael ei gysylltu gydag IQ is erbyn i’r plant fod yn wyth oed.

Ar y llaw arall, mae bwydydd llawn fitaminau a maetholion yn cynyddu gallu’r plant i feddwl.

Mae’n dweud hefyd y bydd gwella deiet plant yn ddiweddarach hefyd yn helpu i godi’r IQ.

Mae’r ymennydd yn tyfu ar ei gyflyma’ yn ystod y tair blynedd gynta’ ac awgrym yr ymchwil yw bod arferion bwyta cynnar yn helpu i sefydlu pa mor ddeallus yw’r plant yn nes ymlaen.

“Mae’n bosib bod maeth da yn ystod y cyfnod yma’n annog tyfiant yr ymennydd,” nododd yr adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn o’r enw The Journal of Epidemology and Community Health.

Gwybodaeth

Mae cyfarwyddwr ymchwil yr Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol, Michael Nelson, yn credu ei bod yn bwysig bod pawb sy’n rhan o ddatblygiad ifanc plant yn cael yr wybodaeth briodol ynglŷn â maeth da.

“R’yn ni’n ymwybodol o’n hymchwil ein hunain bod rhoi bwyd iach i blant yn helpu gyda lefelau canolbwyntio yn y dosbarth,” meddai Michael Nelson.