Un o hofrenyddion y gwasanaeth achub
Mae’r broses o werthu gwasanaethau chwilio ac achub y Llywodraeth wedi cael ei hatal am y tro oherwydd problemau gyda’r drefn o dendro.

Mae heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn bellach yn ymchwilio i weld sut yr aeth gwybodaeth gyfrinachol i ddwylo un o’r cystadleuwyr.

Fe gyfaddefodd y cwmni a oedd yn arwain y ras breifateiddio ei fod wedi cael gafael ar wybodaeth masnachol sensitif.

Y bore yma, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Philip Hammond, bod yr “anghysonderau” yn ddigon i atal y broses werthu a fyddai’n cynnwys y gwasanaethau achub yn Y Fali, Ynys Môn.

Mae’n ymddangos mai’r cwmni, CHC, oedd wedi tynnu sylw at y broblem.

Fe fydd y Llywodraeth yn awr yn ystyried sut i drefnu’r gwasanaethau yn y tymor hir ac yn sicrhau bod darpariaeth ar gael yn y tymor byr.