David Cameron
Mae David Cameron heddiw wedi cyfaddef ei fod wedi trafod cynnig News Corporation ar gyfer BSkyB efo James Murdoch yn ystod y cyfnod pan oedd y Llywodraeth yn ystyried y cynnig.

Dywedodd ei fod wedi trafod y cynnig gyda James Murdoch mewn cinio yng nghartref Rebekah Brooks yn Nadolig 2010. Hi oedd Prif Weithredwr News International ar y pryd.

Mi wnaeth David Cameron gydnabod mewn cyfweliad efo’r newyddiadurwr Andrew Marr ei fod wedi creu embaras iddi fo’i hun trwy gael y sgwrs ac awgrymodd hefyd ei fod yn difaru cael y sgwrs o gwbwl.

Dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn cofio pob manylyn o’r sgwrs gyda James Murdoch ond roedd yn ymwneud â sylwadau Vince Cable, Ysgrifennydd Busnes y Llywodraeth ar y pryd, ei fod wedi “datgan rhyfel” yn erbyn News Corporation.

Wrth sôn am yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt sydd o dan y lach oherwydd y ffordd y mae wedi delio â’r cytundeb BSkyB, dywedodd Mr Cameron nad oedd yn credu fod Mr Hunt wedi torri’r cod ymddygiad gweinidogaethol, “fel y mae pethau’n sefyll.” Fe allai orchymyn ymchwiliad annibynnol i’r mater ar ôl i’r Ysgrifennydd Diwylliant gyflwyno tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson, ychwanegodd.