Jeremy Hunt
Mae Jeremy Hunt, Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth Prydain, yn wynebu cyhuddiadau ei fod wedi camarwain y Senedd ynglŷn â’r ffordd yr oedd wedi ymdrin â chais cwmni Rupert Murdoch, News Corp, i gymryd drosodd BSkyB.

Mae Ymgynghorydd arbennig i Mr Hunt, Adam Smith, eisoes wedi ymddiswyddo oherwydd ei fod wedi pasio gwybodaeth ymlaen i Frédéric Michel oedd yn lobïo ar ran News Corp, er mai ei fos, Jeremy Hunt, fasai’n penderfynu a fyddai cynnig News Corp ar gyfer BSkyB yn cael ei dderbyn ai pheidio.

Mae papur newydd yr Independent on Sunday yn honni fod Jeremy Hunt wedi camarwain y Senedd deirgwaith trwy beidio â datgelu gwybodaeth am y cyfathrebu a fu rhwng ei adran a News Corp.

Mae Harriet Harman, Ysgrifennydd Diwylliant yr Wrthblaid, hefyd wedi datgan fod Jeremy Hunt wedi camarwain y Senedd.

“Dywedodd ei fod yn ddiduedd pan nad oedd, dywedodd ei fod wedi rhoi’r holl wybodaeth i’r Senedd er mae’n amlwg nad oedd wedi gwneud hynny,” meddai.

Mae’r cod ymddygiad gweinidogaethol yn gwneud yn glir os yw hi’n dod i’r amlwg fod Ysgrifennydd wedi camarwain y Senedd yn fwriadol yna mae’n rhaid i’r person yna ymddiswyddo.

Dywed yr Independent on Sunday hefyd fod posibilrwydd fod y Prif Weinidog ei hun wedi torri’r cod ymddygiad gweinidogaethol trwy beidio ag awdurdodi ymchwiliad annibynnol i ymddygiad Mr Hunt.