Fydd Downing Street ddim yn achub y blaen ar ymchwiliad Leveson trwy gynnal ymchwiliad i honniadau yn erbyn yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt am ei ran yn ymgais cwmni News Corp i brynu BSkyB.

“Bydd Jeremy Hunt yn ymddangos gerbron yr ymchwilad ar ôl tyngu llŵ ac mae eisoes wedi ei gwneud yn glir y bydd yn darparu’r holl dystiolaeth angenrheidiol i’w ystyried,” meddai llefarydd ar ran Downing Street

Mae’r Blaid Lafur, rhai aelodau o’r Democratiaid Rhyddfrydol ac ambell Geidwadwr ar y llaw arall yn credu y dylai’r Prif Weinidog weithredu’r côd ymddygiad ar gyfer gweinidogion rwan gan ofyn i’r ymgynghorydd annibynnol ar faterion gweinidogaethol, Sir Alex Allan i ystyried os ydi ymddygiad Jeremy Hunt wedi bod yn groes i’r côd yma.

Fe wnaeth cynghorydd arbennig Jeremy Hunt, sef Adam Smith ymddiswyddo oherwydd yr hyn alwodd yn berthynas amhriodol rhyngddo fo a News Corp ac yn ôl y côd gweinidogaethol mae Mr Hunt yn gyfrifol am weithredoedd ei gynghorwyr arbennig.

Galw am ymchwiliad rwan

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, Harriet Harman bod gan y Prif Weinidog gyfrifoldeb i gynnal ymchwiliad o’r fath.

“Mae wastad wedi bod yn gyfrifoldeb ar y Prif Weinidog i sicrhau bod ei weinidogion yn cadw at y côd ymddygiad. Ni ddylai fod wedi ceisio rhoi’r cyfrifoldeb ar ysgwyddau’r Arglwydd Ustus Leveson,” meddai.

“Dylai David Cameron wynebu ei gyfrifoldebau fel Prif Weinidog a chyfeirio’r mater yn syth at yr ymgynghorydd annibynnol ar faterion gweinidogaethol, fel y dylai fod wedi gwneud o’r cychwyn cyntaf,” ychwanegodd gan alw ar Jeremy Hunt i ddod gerbron Tŷ’r Cyffredin cyn gynted ag y bo’r modd.

Mae Dirprwy Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Simon Hughes
Jeremy Hunt
a’r aelod Ceidwadol Bernard Jenkin wedi ategu sylwadau Harriet Harman.

Roedd Mr Hunt wedi gofyn am gael cyflwyno tystiolaeth gerbron yr ymchwiliad i ddiwylliant a gweithgareddau’r wasg ynghynt na’r disgwyl ond dywedwyd wrtho ddoe ddod na fydd yn cael cyflwyno ei dystiolaeth  cyn ganol Mai “er tegwch i bawb” yn ôl llefarydd ar ran yr ymchwiliad.

Does yma ddim dyddiad penodol wedi ei bennu er mwyn iddo gyflwyno’i dystiolaeth ond fydd gwleidyddion ddim yn ymddangos gerbron yr ychwiliad tan y mis nesaf ac mae’r cadeirydd, yr Arglwydd Ustus Leveson wedi gwrthod newid y drefn.

Mae’r Arglwydd Leveson eisoes wedi dweud nad ydio’n credu mai fo ddylai fod yn gweithredu fel canolwr yn y mater yma.