Jeremy Hunt
Fydd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt ddim yn cael cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad Leveson cyn ganol Mai “er tegwch i bawb” yn ôl llefarydd ar ran yr ymchwiliad .

Roedd Mr Hunt wedi gofyn am gael cyflwyno tystiolaeth gerbron yr ymchwiliad i ddiwylliant a gweithgareddau’r wasg ynghynt na’r disgwyl er mwyn iddo gael ymateb i honniadau am ei ran yn ymgais cwmni News Corp i brynu BSkyB.

Doedd yma ddim dyddiad penodol wedi ei bennu er mwyn iddo gyflwyno’i dystiolaeth ond fydd gwleidyddion ddim yn ymddangos gerbron yr ychwiliad tan y mis nesaf ac mae’r cadeirydd, yr Arglwydd Ustus Leveson wedi gwrthod newid y drefn.

Fe wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg ddatgan ddoe ei fod yn cefnogi’r syniad o ddefnyddio ymchwiliad Leveson i ymchwilio i ymddygiad Mr Hunt.

Mae yna gôd ymddygiad ar gyfer gweinidogion ac mae’r Blaid Lafur a rhai aelodau o’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau gweld ymgynghorydd annibynnol y Prif Weinidog ar faterion gweinidogaethol, Sir Alex Allan yn ystyried os ydi ymddygiad Jeremy Hunt wedi bod yn groes i’r côd yma.

Fe wnaeth cynghorydd arbennig Jeremy Hunt, sef Adam Smith ymddiswyddo oherwydd yr hyn alwodd yn berthynas amhriodol rhyngddo fo a News Corp ac yn ôl y côd gweinidogaethol mae Mr Hunt yn gyfrifol am weithredoedd ei gynghorwyr arbennig.

“Yn hytrach na chuddio y tu ôl i Leveson, dylai Mr Cameron brofi ei hun yn gyfrifol fel Prif Weinidog a gwneud yn siwr bod y côd yn cael ei weithredu,” meddai arweinydd Llafur, Ed Miliband.

Mae’r Arglwydd Leveson wedi dweud nad ydio’n credu mai fo ddylai fod yn gweithredu fel canolwr yn y mater yma.