Mae Rupert Murdoch wedi ymddiheuro i’r rheini sydd wedi eu heffeithio gan y sgandal hacio ffonau symudol wrth roi tystiolaeth o flaen Ymchwiliad Leveson heddiw.

Dywedodd y biliwnydd “sori” 17 o weithiau yn ystod tair awr o roi tystiolaeth – cyfartaledd o unwaith bob deg munud.

Ychwanegodd ei fod yn “ymddiheuro” pum gwaith ac yn “difaru” tair gwaith.

Dywedodd y dyn 81 oed wrth y llys ei fod yn teimlo’n gyfrifol am y sgandal hacio ffonau symudol yn y News of the World, a’i fod yn “nam difrifol” ar ei enw da.

Roedd yn ddrwg ganddo fod cymaint o bobol wedi colli eu swyddi pan gaewyd y papur newydd ym mis Gorffennaf y llynedd, meddai.

“Y cyfan alla’i ei wneud yw ymddiheuro i lawer iawn o bobol, gan gynnwys yr holl bobol wnaeth ddim byd o’i le ond a gallodd ei swyddi â’r News of the World,” meddai.

Ond wrth roi tystiolaeth yn ddiweddarach, dywedodd y dylai fod wedi cau’r papur newydd ynghynt.

“Rydw i’n flin nad oeddwn i wedi ei gau flynyddoedd yn ôl a chyflwyno’r Sunday Sun yn ei le,” meddai cadeirydd News Corporation.

Roedd hefyd yn teimlo ei fod ef ei hun wedi dioddef o ganlyniad i ymgais gan rai yn y News of the World i guddio beth ddigwyddodd yno.

Dywedodd ei fod wedi “methu” oherwydd bod rhaid papur newydd yn “fwy annwyl iddo” gan eraill.