Rupert Murdoch
Mae cadeirydd News Corp Rupert Murdoch wedi bod yn rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson heddiw ac yn honni nad oedd Gordon Brown “mewn cyflwr meddyliol sefydlog” pan gyhoeddodd y byddai’r Llywodraeth yn mynd “ryfel” yn erbyn ei gwmni.

Dywedodd Murdoch, 81, bod y cyn Brif Weinidog  wedi ei ffonio ar ôl i’r Sun gyhoeddi ei fod yn cefnogi’r Ceidwadwyr yn 2009.

Yn ôl Rupert Murdoch, fe ddywedodd Gordon Brown wrtho: “Wel, mae eich cwmni chi wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn fy Llywodraeth felly does gynnon ni ddim dewis ond mynd i ryfel yn erbyn eich cwmni chi.”

Dywedodd Murdoch ei fod wedi cwrdd â Tony Blair pan oedd yn Brif Weinidog ac yn ei ystyried yn ffrind personol.

“Hoffwn i ddweud na wnes i unwaith ofyn i Mr Blair am ddim byd yn ystod ei 10 mlynedd mewn grym,” meddai Rupert Murdoch.

David Cameron

Dywedodd Rupert Murdoch ei fod wedi cwrdd â David Cameron am y tro cyntaf mewn picnic yn nhŷ ei ferch pan oedd yn arweinydd yr wrthblaid.

Ers i David Cameron ddod yn Brif Weinidog dywedodd ei fod wedi cwrdd ag o sawl gwaith yn gymdeithasol ond “nad oedd unrhyw beth o sylwedd wedi cael ei drafod.”

Nid oedd yn cofio cwrdd â David Cameron ar ei long hwylio ger ynys Santorini yng Ngwlad Groeg ym mis Awst 2008, meddai.

Dywedodd ei fod wedi ei “ddadrithio” gyda gwleidyddion a’i fod yn wastraff amser trafod y BBC neu Ofcom gyda nhw.

Roedd hefyd yn mynnu nad oedd wedi defnyddio “dylanwad y Sun neu unrhyw rym gwleidyddol honedig i gael triniaeth ffafriol.”

Gwadodd hefyd ei fod wedi trafod cais News Corp i brynu BSkyB gyda David Cameron.

Dywedodd Murdoch ei fod yn ceisio gosod esiampl o ymddygiad moesol a’i fod yn disgwyl yr un peth gan eraill. Ychwanegodd nad oedd yn credu yn yr arfer o hacio neu ddefnyddio ditectifs preifat “am ei fod yn ffordd ddiog i ohebwyr wneud eu gwaith.”

Alex Salmond

Mae Murdoch yn disgrifio ei berthynas gyda Alex Salmond fel un “agos”.

“Mae o’n ddyn difyr  ac rydw i’n mwynhau ei gwmni, rydw i’n mwynhau gwrando arno,” meddai.

Pan ofynnwyd i Murdoch a oedd ganddo unrhyw ddylanwad ar benderfyniad y Scottish Sun i gefnogi’r SNP yn 2011 yn hytrach na’r Blaid Lafur, dywedodd, “Dydw i ddim yn cofio, ond mae’n debyg fy mod i.”

Dywedodd fod y papur yn ddiduedd ar fater annibyniaeth i’r Alban – “mae’r syniad yn apelio ata’i ond dydw i ddim wedi fy argyhoeddi felly nes i ddweud dylen ni aros yn niwtral ar y mater, cawn weld sut mae’n perfformio,” meddai Rupert Murdoch.