David Cameron
Mae David Cameron wedi mynnu heddiw bod gan yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt ei “gefnogaeth lawn” yn dilyn honiadau ei fod wedi cael cysylltiadau “amhriodol” gyda News Corporation ynglŷn â’i cais i brynu BSkyB.

Dywedodd y Prif Weinidog bod Jeremy Hunt yn gwneud “gwaith ardderchog” ac y byddai’n amddiffyn ei hun wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson.

Ond mae arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband wedi galw eto ar y Prif Weinidog i ddiswyddo Jeremy Hunt.

Y bore ma fe ymddiswyddodd ymgynghorydd Jeremy Hunt, Adam Smith, yn dilyn cyhoeddi cyfres o ebyst yn ystod Ymchwiliad Leveson oedd yn dangos bod swyddfa’r Ysgrifennydd Diwylliant wedi bod mewn cysylltiad â swyddog blaenllaw yn News Corp ynglŷn â’r cais i brynu BSkyB.