Jeremy Hunt
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt wneud datganiad yn y Senedd heddiw ynglŷn â’i ran mewn cais gan News Corporation i brynu BSkyB.

Roedd galwadau arno i ymddiswyddo ddoe ar ol i gyfres o ebyst gael eu cyhoeddi yn ystod Ymchwiliad Leveson. Roedd yr ebyst wedi cael eu hanfon o swyddfa Jeremy Hunt i swyddog blaenllaw yn News Corp pan oedd yr Ysgrifennydd Diwylliant yn asesu dilysrwydd cais y cwmni.

Mae Jeremy Hunt yn mynnu ei fod wedi ymddwyn yn “gwbl briodol” yn dilyn honiadau ei fod wedi cefnogi cais cadeirydd News Corp, Rupert Murdoch, i brynu BSkyB.

Y bore ma fe gyhoeddodd Adam Smith, ymgynghorydd arbennig Jeremy Hunt, ei fod yn ymddiswyddo, gan ddweud: “Rydw i’n gwerthfawrogi bod fy ngweithredoedd ar adegau wedi mynd yn rhy bell.”

Mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo Jeremy Hunt o roi gwybodaeth gyfrinachol i News Corp ac o gamarwain y Senedd ynglŷn â’i gysylltiad â’r cwmni.

Mae David Cameron hefyd yn wynebu cwestiynau gan y Blaid Lafur heddiw yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog ar ôl iddi ddod i’r amlwg ddoe yn ystod Ymchwiliad Leveson ei fod wedi cwrdd â James Murdoch sawl gwaith ac wedi trafod cais News Corp i brynu BSkyB ym mis Rhagfyr 2010.