Rupert Murdoch
Mae disgwyl i Rupert Murdoch ddatgelu manylion ei gyfarfodydd gyda gwleidyddion blaenllaw pan fydd yn rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson heddiw.

Daw ymddangosiad cadeirydd a phrif weithredwr News Corp, sy’n 81 oed, yn dilyn tystiolaeth ei fab James Murdoch ddoe, a arweiniodd at alwadau ar yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt i ymddiswyddo.

Clywodd yr ymchwiliad i safonau’r wasg honiadau bod Jeremy Hunt wedi bod yn gefnogol i gais dadleuol News Corporation i brynu BSkyB ac wedi rhyddhau gwybodaeth gyfrinachol i’r cwmni.

Neithiwr, roedd y Blaid Lafur yn galw ar yr Ysgrifennydd Diwylliant i ymddiswyddo ar ôl adroddiad ddod i law yn cynnwys manylion e-byst gafodd eu hanfon o swyddfa Jeremy Hunt i swyddog News Corp, Frederic Michel.

Mae Jeremy Hunt wedi ysgrifennu at yr Arglwydd Ustus Leveson i ofyn a yw’n bosib iddo ymddangos yn gynt yn yr ymchwiliad gan ddweud y byddai ei dystiolaeth yn profi i’r cyhoedd ei fod wedi ymddwyn yn deg.

Mae disgwyl i Rupert Murdoch gael ei holi heddiw ynglŷn â’r helynt hacio ffonau symudol a arweiniodd at gau’r papur News of the World fis Gorffennaf y llynedd yn dilyn adroddiadau bod y papur wedi clustfeinio ar negeseuon ffôn y ferch ysgol Milly Dowler gafodd ei llofruddio.

Fe fydd Murdoch hefyd yn cael ei holi am ei ddylanwad ar fywyd cyhoeddus ym Mhrydain a’i gyfarfodydd gyda phrif weinidogion a gwleidyddion blaenllaw.

Mae News Corp yn berchen The Sun, The Times a’r Sunday Times, ac yn berchen 39% o BSkyB.