Jeremy Hunt
Roedd yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Junt wedi cefnogi cais dadleuol News Corporation i brynu BSkyB ac wedi rhyddhau gwybodaeth i News Corp, clywodd Ymchwiliad Leveson heddiw.

Roedd cyfarwyddwr materion cyhoeddus News Corp, Frederic Michel, wedi anfon cyfres o ebyst at James Murdoch a phenaethiaid eraill yn datgelu sut roedd y cais yn datblygu.

Mewn un ebost roedd Frederic Michel wedi rhoi manylion ynglŷn â’r hyn fyddai Jeremy Hunt yn ei gyhoeddi yn y Senedd y diwrnod wedyn, gan nodi ei bod yn “hollol anghyfreithlon” iddo gael y wybodaeth.

Mae’r honiadau wedi arwain at alwadau ar Jeremy Hunt i ymddiswyddo, ond dywedodd llefarydd David Cameron heddiw bod y Prif Weinidog yn parhau i gefnogi’r Ysgrifennydd Diwylliant yn dilyn yr honiadau.

Mae James Murdoch wedi bod yn rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad i safonau’r wasg ynglyn â’r cyfnod pan oedd y sgandal hacio ffonau yn datblygu.

Dywedodd heddiw nad oedd wedi gweld unrhyw wybodaeth oedd yn awgrymu bod mwy nag un newyddiadurwr wedi bod yn clustfeinio ar negeseuon ffôn symudol.