James Murdoch
Clywodd Ymchwiliad Leveson heddiw bod James Murdoch wedi cwrdd â David Cameron 12 o weithiau pan oedd yn arweinydd yr wrthblaid, gan gynnwys pedwar o gyfarfodydd lle’r oedd Rebekah Brooks yn bresennol.

Roedd cyn-gadeirydd News International  wedi cwrdd â David Cameron mewn cinio i drafod diddymu pwerau’r Ysgrifennydd Busnes Vince Cable yn ystod cais News Corporation i gymryd drosodd BSkyB.

Roedd James Murdoch hefyd wedi cwrdd â’r Canghellor George Osborne a’r Ysgrifennydd Tramor William Hague cyn i’r Ceidwadwyr ddod i rym.

Dywedodd ei fod hefyd wedi cynnal cyfarfodydd gyda Tony Blair pan oedd yn Brif Weinidog a Gordon Brown.

Mae Murdoch wedi bod yn rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad i safonau’r wasg ynglyn â’r cyfnod pan oedd y sgandal hacio ffonau yn datblygu.

Dywedodd heddiw nad oedd wedi gweld unrhyw wybodaeth oedd yn awgrymu bod mwy nag un newyddiadurwr wedi bod yn clustfeinio ar negeseuon ffôn symudol.