Mae Ofcom yn cynnal ymchwiliad i achosion o hacio i gyfrifon ebost preifat gan Sky News.

Mae’n dilyn cyfaddefiad gan Sky News yn gynharach yn y mis eu bod wedi cael mynediad i gyfrifon John Darwin a’i wraig Anne, ynghyd a dyn sy’n cael ei amau o fod yn bedoffil.

Dywedodd Ofcom heddiw eu bod yn ymchwilio i’r mater am ei fod yn codi cwestiynau am “degwch a phreifatrwydd.”

Roedd Sky News wedi amddiffyn eu penderfyniad i hacio cyfrifon ebost wrth ymchwilio i straeon newyddion gan ddweud ei fod er budd i’r cyhoedd ac yn “newyddiaduraeth cyfrifol.”