Stephen Lawrence
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn ystyried galw am ail ymchwiliad cyhoeddus i lofruddiaeth Stephen Lawrence, yn ôl adroddiadau.

Daw’r camau diweddaraf yn dilyn honiadau  newydd y gall llygredd o fewn yr heddlu fod wedi amharu ar yr ymchwiliad gwreiddiol i lofruddiaeth y llanc croenddu.

Mae ’na honiadau na chafodd adroddiad cyfrinachol gan swyddogion gwrthlygredd y Met ei gyflwyno i’r panel yn ystod yr ymchwiliad cyhoeddus ym 1998 oedd yn edrych ar y ffordd roedd yr heddlu wedi delio â’r achos.