Fe fyddai yn well gan un ym mhob deg o ddynion sengl gael iPad 3 na chariad newydd, yn ôl pôl piniwn a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl yr ymchwil fe fyddai yn well gan 11% o ddynion sengl gael y llechen ddiweddaraf gan Apple na dod o hyd i bartner.

Roedd 3% hefyd yn dweud y bydden nhw’n fodlon gadael eu cariad cyfredol am un o’r dyfeisiau, yn ôl pôl piniwn gan gwmni Roxy Palace.

“Mae yna alw mawr wedi bod am yr iPad 3, ac mae’n amlwg y byddai nifer o ddynion yn fodlon ‘aros ar y silff’ os fyddai hynny’n golygu cael mynd ag un o’r dyfeisiau adref,” meddai llefarydd.

“Mae’r ddyfais yn cynnig bob math o wasanaethau – ond nid yw’n gallu cynnig rhai gwasanaethau penodol y mae cariad yn gallu ei gynnig.

“Serch hynny mae’n amlwg y byddai nifer o ddynion yn hapus i fynd hebddyn nhw.”