Ci a chath
Mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi y bydd rhaid i berchnogion osod sglodyn micro ym mhob ci newydd anedig yn Lloegr.

Daw’r cyhoeddiad wedi ei Weinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, gyhoeddi ym mis Rhagfyr ei fod yn ystyried deddf fyddai’n golygu bod rhaid gosod sglodyn ym mhob ci yng Nghymru.

Mae disgwyl y bydd ymgynghoriad ar y mater yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y Cynulliad yn hwyrach ymlaen eleni.

Y nod yng Nghymru a Lloegr yw bod gwybodaeth am bob ci yn cael ei gadw ar fas-data canolog y mae’r llywodraeth a’r RSPCA yn gallu cael mynediad ato.

Y gred yw y bydd yn ei gwneud hi’n haws i ddod o hyd i ac erlyn perchnogion cŵn treisgar.

Ond mae pryderon na fydd troseddwyr o’r fath yn trafferthu cadw at y ddeddf newydd, tra bod perchnogion cyfrifol yn gorfod talu costau ychwanegol.

“Os nad ydym ni’n ofalus fe fyddwn ni’n gwneud pethau’n anoddach i berchnogion cŵn cyfrifol, heb ddatrys y broblem go iawn sef cŵn treisgar,” medai’r AS Neil Parish, cadeirydd pwyllgor budd anifeiliaid Tŷ’r Cyffredin.

“Mae’n rhaid i ni gadw llygad ar gŵn sy’n cael eu bridio’n anghyfreithlon gan bobol sy’n cymysgu bridiau er mwyn creu cŵn milain.

“Dydw i ddim yn credu y dylid targedu’r cŵn, ond y perchnogion sy’n eu hyfforddi nhw i fod yn filain.”