Mae newyddiadurwr y Sun a chyn-aelod o’r lluoedd arfog ymhlith tri o bobl sydd wedi cael eu harestio heddiw gan dditectifs sy’n ymchwilio i honiadau am daliadau anghyfreithlon i swyddogion cyhoeddus.

Cafodd y tri eu harestio gan swyddogion Scotland Yard yn ystod cyrch ar gartrefi yng Nghaint a Swydd Gaerhirfryn yn gynnar bore ma.

Mae News International wedi cadarnhau bod newyddiadurwr y Sun ymhlith y rhai gafodd eu harestio ond wedi gwrthod datgelu unrhyw fanylion pellach.