Fe fydd arweinwyr undeb sy’n cynrychioli gyrrwyr tanceri tanwydd yn penderfynu heddiw a fyddan nhw’n derbyn cytundeb a fydd yn osgoi cyfres o streiciau.

Fe fydd tua 60 o gynrychiolwyr y gyrrwyr o saith cwmni yn trafod y cynigion  yn dilyn chwe diwrnod o drafodaethau gyda’r gwasanaeth cymodi Acas.

Daeth y trafodaethau i ben ddydd Gwener diwethaf ond nid yw’r cyflogwyr na undeb Unite am ddatgelu manylion y trafodaethau cyn y cyfarfod heddiw.