Mae cwmni archfarchnad Tesco wedi cyhoeddi cynlluniau gwerth £1biliwn heddiw i adfywio’r busnes ar ôl cyfaddef bod angen gwella’u perfformiad yn dilyn  gostyngiad yn ei elw yn y DU.

Er bod elw’r cwmni wedi cynyddu 1.6% i £3.9 biliwn roedd gwerthiant wedi gostwng 1% i £2.5 biliwn am y flwyddyn hyd at Chwefror 25. Mae’n debyg bod Tesco yn wynebu cystadleuaeth gan archfarchnadoedd eraill.

Dywedodd prif weithredwr Tesco Philip Clarke y byddai’r cwmni yn gwario £1bn dros y flwyddyn nesaf ar wella’i siopau, recriwtio rhagor o staff a chynnig prisiau is a gwerth am arian.