Fe allai math newydd o driniaeth ar gyfer canser y brostad fod yn fwy effeithiol a golygu llai o sgil effeithiau, yn ôl adroddiad newydd.
Mae’r driniaeth arbrofol yn defnyddio tonnau uwchsain i drin canser sydd ond ychydig filimedrau o faint.
Blwyddyn ar ôl y driniaeth newydd, roedd yr astudiaeth ymhlith 41 o ddynion yn dangos bod ganddyn nhw lai o sgil effeithiau, fel gwlychu, sy’n broblem gyffredin gyda thriniaethau confensiynol.
Mae canlyniadau’r astudiaeth, gafodd ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC), yn cael eu cyhoeddi yng nghylchgrawn Lancet Oncology.
Dywedodd Dr Hashim Ahmed fu’n arwain yr astudiaeth, bod y canlyniadau yn “galonogol iawn”.
Canser y brostad yw’r canser mwyaf cyffredin mewn dynion. Mae mwy na 37,000 o ddynion yn y DU yn cael diagnosis o ganser y brostad bob blwyddyn gan arwain at 10,000 o farwolaethau.