Arglwydd Ahmed
Mae’r Arglwydd Ahmed wedi cael ei ddiarddel o’r Blaid Lafur yn dilyn adroddiadau ei fod wedi cynnig £10 miliwn am ddal yr Arlywydd Barack Obama.

Mae wedi gwadu’r cyhuddiadau oedd wedi ymddangos mewn papur newydd ym Mhacistan. Yn ôl yr adroddiadau roedd yr Arglwydd Ahmed wedi cynnig yr arian  am ddal Barack Obama a’i ragflaenydd George Bush yn ystod digwyddiad yn  Haripur ddydd Gwener.

Dywedodd yr Express Tribune ei fod wedi ymateb i wobr ariannol sy’n cael ei gynnig gan yr UDA am ddal radical blaenllaw Pacistanaidd.