Y 'Titanic'
Cynhaliwyd gwasanaeth ar fwrdd y llong bleser Balmoral y bore yma yn yr union fan ynghanol môr Iwerydd ble suddodd y Titanic ar y 15 Ebrill 1912.

Lladdwyd 1,512 o bobl yn y trychineb, achosodd newid sywleddol yn y rheolau ynglyn â diogelwch ar longau.

Ar ôl suddo’r Titanic, bu’n rhaid i longau gario nifer o fadau achub oedd yn cyfateb i nifer y teithwyr nid i bwysau’r llong.

Fe wnaeth y teithwyr ar y Balmoral, sy’n cynnwys perthnasau rhai o’r bobl laddwyd, gynnal munud o dawelwch yn oriau man y bore cyn i dorchau gael eu taflu i’r môr.

Cafodd pob un o’r rhai fu farw ei enwi yn ystod y gwasanaeth.

Mae arddangosfeydd am y Titanic yn cael eu cynnal mewn sawl cwr o’r byd gan gynnwys Las Vegas, San Diego, Houston a Singapore.

Mae’r arddangosfa fwyaf beth bynnag yn Belfast ble gafodd y Titanic ei hadeiladu gan gwmni Harland and Wolff ac mae 45,000 o bobl eisoes wedi bod yno.

Cafodd Gardd Goffa’r Titanic hefyd ei hagor ynghanol y ddinas mewn pryd ar gyfer y coffau’r penwythnos yma.