Mae trysorydd y Blaid Geidwadol, yr Arglwydd Fink, ymhlith nifer sy’n cael eu dyfynnu ym mhapurau’r Sul yn cwyno y bydd cynlluniau’r llywodraeth i drethu rhoddion elusennol yn darbwyllo pobl i beidio cyfrannu o gwbl.

Mae’r llywodraeth eisiau cael gwared â’r rheol sy’n caniatau i drethdalwyr cyfoethog roi faint fynnon nhw i elusennau gan ostwng eu biliau treth yn sylweddol, a weithiau osgoi talu treth o gwbl.

O’r flwyddyn nesaf ymlaen bydd rhyddhad o dalu treth trwy gyfrannu i elusen yn cael ei gyfyngu i £50,000 neu 25% o incwm yr unigolyn.

Yn ôl y Sunday Times mae’r Arglwydd Fink yn un o nifer o Geidwadwyr blaenllaw sy’n pryderu bod cynllun y Canghellor i drethu rhoddion yn mynd i gael effaith andwyol ar gyllid elusennau.

“ Os y bydd y llywodraeth yn newid y rheolau trethiant, yna yn anorfod bydd yn newid y swm cyn treth y bydd yr elusen yn ei dderbyn. Os y bydd yn rhaid talu’r dreth ar yr incwm sy’n cael ei roi o gyfalaf, yna fe fydd rhai pobl yn ail feddwl” meddai.

Mae 46 o gyfrannwyr cyson i elusennau wedi ysgrifennu llythyr i’r Sunday Telegraph gan ddweud eu bod hwythau yn credu y bydd elusennau ar eu colled os y bydd y cynlluniau yn cael eu gwireddu.

Fe fydd gorfodi rhoddwyr i dalu treth ar gyfraniadau i elusennau yn ‘frêc ar ddyngarwch’ yn ôl y llythyr, sydd wedi cael ei arwyddo gan dri aelod o deulu Sainsbury sy’n cyfrannu’n gyson i elusennau.

Y llywodraeth ddim am ail feddwl

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg ar y llaw arall yn amddiffyn cynllun y llywodraeth ym mhapur y Sunday People.

“Dyw hi ddim yn iawn bod rhai rhoddwyr cyfoethog yn gallu gostwng eu biliau treth yn agos i ddim byd o gwbl flwyddyn ar ôl blwyddyn,” meddai.

Mae’r llywodraeth yn credu bod y rhoddwyr cyfoethog yn gallu defnyddio’r drefn fel y mae hi ar hyn o bryd i ddewis sut mae eu harian yn cael ei wario – yn groes i’r helyw o drethdalwyr sydd yn gorfod rhoi eu trethi i’r llywodraeth.

Cwyno hefyd yn yr Alban

Mae Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, John Swinney hefyd yn poeni am effaith y cynlluniau.

Mae wedi anfon llythyr at y Canghellor George Osbourne yn dweud na fydd llywodraeth yr Alban yn cefnogi mesur all gael effaith andwyol ar elusennau yno.

“Rwyf yn cefnogi’n llwyr yr angen i sicrhau na fydd unigolion cyfoethog yn osgoi talu eu trethi, ond rwyf yn credu y bydd eich cynlluniau fel y mae nhw ar hyn o bryd yn effeithio ar y trydydd sector yn yr Alban a thu hwnt trwy ostwng y nifer a lefel rhoddion elusennol dyngarol,” meddai.