Pwerau newydd i'r heddlu
Fe fydd y Swyddfa Gartref yn ymgynghori ynglŷn â ffyrdd newydd o reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Fe fydd y rheiny’n cynnwys gorfodaeth ar yr heddlu i ymchwilio os bydd o leia’ bump o bobol yn cwyno.

Fe fyddai’r heddlu hefyd yn cael rhagor o rym i gosbi pobol yn y fan a’r lle, gan gynnwys mynd ag offer a’u gorfodi i wneud iawn am drosedd.

Fe fydd y gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol – yr Asbos – yn cael eu dileu. Yn lle hynny, fe fyddai’r heddlu’n gallu mynd i’r llys i ofyn am orchmynion newydd i atal ymddygiad sy’n niwsans.

Mae Llafur wedi ymosod ar y cynigion gan ddweud mai cael plismyn a swyddogion cymunedol ar y stryd yw’r ateb – ddoe fe ddywedson nhw y byddai toriadau gwario’r Llywodraeth yn arwain at golli 10,000 o blismyn.