Mae Pwyllgor Trefnu’r Gemau Olympaidd wedi ymateb i honiadau ynglŷn ag amodau gwaith y cwmni sy’n creu dillad ar gyfer y gemau.

Honnodd papur newydd yr Independent bod y dillad ar gyfer pencampwyr Prydain a gwirfoddolwyr y gemau “yn cael eu creu mewn gweithdai cyflog isel (sweatshops) yn Indonesia”.

Roedd y gweithwyr yn slafio am 65 awr y diwrnod ac yn ennill cyn lleied â 34c yr awr, medden nhw.

Mae cwmni dan sylw, Adidas, hefyd yn ymchwilio i’r honiadau, medd y pwyllgor.

“Rydyn ni’n blaenoriaethu materion amgylcheddol, cymdeithasol a moesol wrth archebu gwasanaethau a nwyddau ac felly yn cymryd yr honiadau o ddifri,” meddai llefarydd ar ran y pwyllgor trefnu.

“Rydyn ni wedi siarad â Adidas ac maen nhw wedi ein sicrhau eu bod nhw’n ymchwilio i’r honiadau, ac y bydd y casgliadau yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.”