George Carey
Mae cyn-Archesgob Caergaint wedi dweud bod Cristnogion ym Mhrydain yn cael “eu herlid” a’u “gorfodi i addoli’n gudd”.

Honnodd yr Arglwydd Carey bod Cristnogion yn cael eu neilltuo rhag cael swyddi mewn sawl sector oherwydd “bod y wladwriaeth yn erbyn eu credoau”.

Dywedodd fod Cristnogion bellach yn wynebu cael eu harestio am gyfleu eu barn.

Mae sylwadau’r cyn-Archesgob yn rhan o lythyr ganddo at Lys Hawliau Dynol Ewrop.

Mae disgwyl i’r llys ddyfarnu ar achos dau weithiwr sydd wedi eu gorfodi o’u swyddi am wisgo croesau, a chofrestrydd sy’n dymuno peidio â chynnal seremonïau cyplau hoyw.

Dywedodd yr Arglwydd Carey bod gwerthoedd traddodiadol Cristnogion wedi eu “gwahardd” gan rai a oedd am orfodi “cydymffurfiad seciwlar” ar bawb yn y wlad.

Mewn “achos ar ôl achos” roedd llysoedd Prydain wedi methu a diogelu gwerthoedd Cristnogol, meddai, ac roedd yn annog Llys Hawliau Dynol Ewrop i wneud yn iawn am hynny.