Mae clybiau merched noeth, siopau betio a stondinau cebábs yn amharu ar dŵf y stryd fawr ym Mhrydain, medd arweinwyr cynghorau heddiw.

Mae busnesau o’r math yna yn apelio at wendidau pobl ac yn amharu ar ymdrechion i adfywio canol trefi, meddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr. Dylid agor mwy o siopau llyfrau, bwytai a siopau cigydd, yn ôl ymchwil y Gymdeithas.

“Mae’r cyhoedd yn gyffredinol yn llai tebygol o siopa ar strydoedd mawr, a mae busnesau yn llai tebygol o agor ar strydoedd, lle mae yna siopau cludfwyd a sioeau rhyw”, meddai Clyde Loakes o Gymdeithas Llywodraeth Leol.

Yn ôl ymchwil y Gymdeithas mae 76% o weithwyr cyngor yn rhoi’r bai ar glybiau merched noeth am arafu tŵf y stryd fawr, tra bod 69% yn rhoi’r bai ar siopau betio hefyd.

Roedd 45% yn credu bod clystyrau o siopau cludfwyd yn amharu ar dŵf economaidd.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr yn galw am fwy o bwerau fel bod cynghorau lleol yn gallu mynd i’r afael â’r broblem, ond dywed llefarydd ar ran y swyddfa gartref fod “amryw o bwerau” gyda nhw eisoes ym maes trwyddedu.