Mae yna obaith newydd na fydd streic y tanceri tanwydd yn digwydd wedi’r cwbl.

Mae arweinwyr undeb Unite wedi bod yn cynnal trafodaethau drwy’r wythnos â swyddogion o chwe chwmni dosbarthu tanwydd, dan gadeiryddiaeth gwasanaeth cymodi Acas.

“Yn ystod y pythefnos diwethaf mae chwech o gontractwyr wedi cwrdd â undeb Unite. Rydyn ni’n falch o gael cyhoeddi ein bod ni wedi llwyddo i gytuno ar gynnig,” meddai Peter Harwood o Acas.

“Mae manylion y cynnig yn gyfrinachol ar hyn o bryd nes bod pawb yn rhoi gwybod i’r cyrff eu hunain. Wedi hynny mae’n bosib y byddwn nhw’n dewis datgelu’r manylion eu hunain.”

Roedd aelodau Unite wedi pleidleisio i streicio fis diwethaf ac roedd disgwyl penderfyniad terfynol gan yr undeb brynhawn ddoe.

Ond mae Unite wedi gwneud cais am ymestyn y cyfnod trafod cyn bod rhaid penderfynu a fydd streic yn digwydd ai peidio.

“Mae Acas yn hapus â’r datblygiad yma ac yn gobeithio y bydd yn datrys y mater,” meddai Peter Harwood.

Fe fydd swyddogion Unite yn cyfarfod yr wythnos nesaf er mwyn penderfynu a ydyn nhw’n derbyn y cynnig.