Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi dweud y bydd cylchgrawn The Economist yn “difaru ei enaid” ar ôl cyhoeddi clawr yn dweud y bydd y wlad yn ‘sgint’ ar ôl annibyniaeth.

Mae’r cylchgrawn diweddaraf yn dangos map o’r wlad, wedi ei hail-enwi’n ‘Skintland’, ac yn cynnwys llefydd o’r enw  ‘Glasgone’, ‘Edinborrow’ a’r ‘Highinterestlands’.

Y tu mewn mae erthygl sy’n dadlau y byddai annibyniaeth yn gostus iawn i’r Alban, ac yn golygu mai hi fyddai “un o economïau mwyaf bregus ac ymylol Ewrop”.

Mae Alex Salmond eisiau cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn hydref 2014.

Dywedodd bod tudalen flaen The Economist yn dangos “hiwmor Clwb Bullingdon” ac yn llawn “gwatwar nawddoglyd”

“Mae’n sarhau pob cymuned yn yr Alban,” meddai Alex Salmond wrth Radio Clyde.

“Dyma sut y maen nhw’n ystyried yr Alban mewn gwirionedd. Fe fyddwn nhw’n difaru eu heneidiau am wneud jôcs gwael am yr Alban.

“Fydden i ddim yn sarhaus Lloegr yn yr un modd ag y mae’r Economist yn credu y dylid sarhau cymunedau’r Alban.”