Logo'r hacwyr
Mae grŵp o hacwyr wedi hawlio’r cyfrifoldeb am orfodi i wefan y Swyddfa Gartref gau i lawr am gyfnod ddoe.

Doedd defnyddwyr ddim yn gallu defnyddio gwefan yr adran am sawl awr neithiwr ar ôl i neges ymddangos oedd yn dweud nad oedd hi ar gael oherwydd “traffig uchel”.

Roedd un sylw ar wefan Twitter gan grŵp hacwyr Anonymous yn honni bod y weithred yn talu’r pwyth yn ôl am “eich cynigion gwyliadwriaeth llym”.

Roedd neges arall yn awgrymu mai cytundeb y Deyrnas Unedig i anfon carcharorion i’r Unol Daleithiau oedd yn gyfrifol.

“Ni ddylech chi roi dinasyddion y Deyrnas Unedig i wledydd eraill heb dystiolaeth,” meddai. “Os oedd trosedd wedi digwydd yn y Deyrnas Unedig, fe ddylai’r achos llys ddigwydd yno hefyd.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref eu bod nhw’n “ymwybodol o adroddiadau fod protestwyr ar-lein o bosib wedi targedu’r wefan”