Y Titanic
Fe fydd llong gwyliau yn ail-greu mordaith y Titanic heddiw – gan obeithio osgoi’r mynydd iâ.

Bydd y llong yn cynnwys yr un faint o deithwyr – 1,309 – ac yn gadael yr un porthladd yn Southampton. Mae’r teithwyr wedi talu rhwng £2,799 ac £5,995 yr un am docyn.

Trefnwyd y fordaith 12 noson ar yr MS Balmoral er mwyn cofio suddo’r Titanic 100 mlynedd yn ôl.

Mae hyd yn oed y bwyd fydd ar gael ar y llong yn dod o fwydlen llong y cwmni White Star Line, a suddodd ar 15 Ebrill, 1912.

Fe fuodd 1,500 o bobol farw’r noson honno. Bydd y teithwyr a fydd yn gadael heddiw yn gobeithio cyrraedd Efrog Newydd yn saff.

Bydd gwasanaeth goffa yn cael ei gynnal uwchben safle gweddillion y Titanic, gan ddechrau ar 11.40pm ar 14 Ebrill pan darodd y llong y mynydd iâ, a gorffen am 2.20am ar 15 Ebrill pan suddodd y llong.

Mae perthnasau i’r rheini fu farw ar y llong, yn ogystal ag awduron a haneswyr sy’n cymryd diddordeb brwd yn y Titanic, hefyd ar y llong.

Bydd 10 o ddarlithwyr sy’n arbenigwyr yn y maes yn eu mysg, gan gynnwys Philip Littlejohn, wŷr Alexander James Littlejohn a oroesodd y suddo.

“Fe fydd hi’n emosiynol iawn pan mae’r llong yn atal dros safle’r Titanic. Rydw i eisoes wedi plymio yno yn 2001 a gadawodd fy nhad-cu’r llong yn rhwyfo Bad Achub rhif 13.”