Mae llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, wedi addo heddiw y bydd ei blaid yn “diddymu” cynllun y Llywodraeth i gadw llygad ar sut y mae pobol yn defnyddio’r rhyngrwyd.

Dywedodd Tîm Farron ei fod yn barod i ystyried y ddeddfwriaeth drafft, ond nad oedd ei blaid yn barod i gefnogi deddfau “awdurdodaidd”.

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi eu “synnu” gan y cynlluniau a fyddai yn caniatáu i’r Llywodraeth gadw llygad ar draffig y we – gan gynnwys amseroedd, dyddiadau, rhifau a chyfeiriadau.

“Rydw i’n fodlon cydnabod fod angen cadw golwg ar beth y mae’r gwasanaethau diogelwch ei angen ond mae’n bwysig nad oes yna fynediad at wybodaeth pawb,” meddai wrth raglen Andrew Marr.

“Ond rydyn ni’n barod i ddiddymu’r cynlluniau os oes rhaid.

“Os yw’r cynlluniau yn bygwth cymdeithas rydd a rhyddfrydol does dim modd cyfaddawdu, mae’n rhaid sicrhau nad yw’r newid yn mynd rhagddo.”