Canghellor y Trysorlys, George Osborne
Dywed Canghellor y Trysorlys, George Osborne, fod y syniad o gyhoeddi manylion treth gwleidyddion blaenllaw yn rhywbeth y byddai’n ‘hapus iawn’ i’w ystyried ym Mhrydain.

Fe gododd y pwnc mewn ffrae chwerw rhwng Boris Johnson a Ken Livingtone yn ymgyrch etholiad Maer Llundain – gyda’r naill yn cyhuddo’r llall o osgoi treth incwm trwy wahanol ffyrdd.

Wrth i’r ddau, a’r ymgeiswyr eraill i fod yn Faer Llundain, gytuno i ddatgelu manylion am eu henillion a’r trethi maen nhw’n ei dalu, mae pwysau ar i weinidogion y llywodraeth wneud yr un fath – rhywbeth sydd eisoes yn digwydd yn America.

Mae’r Gweinidog Busnes, Vince Cable, hefyd wedi datgan ei fod yn barod i fod yn agored am ei faterion ariannol personol.

“Fy egwyddor bersonol i yw gwneud y rheolau’n fwy tryloyw’n gyffredinol,” meddai George Osborne. “Rydym yn hapus i ystyried cyhoeddi manylion treth pobl sy’n ceisio’r swyddi uchaf. Wrth gwrs, maen nhw’n gwneud hyn yn America.

“Does gen i ddim problem i’m ffurflen dreth i gael ei chyhoeddi tra ydw i yn y Llywodraeth.”