Mae tîm o arbenigwyr wedi bod yn archwilio llwyfan olew 150 o filltiroedd allan yn y môr gerllaw Aberdeen lle mae nwy wedi bod yn gollwng ers 12 diwrnod.

Mae tua 200,000 o dunelli ciwbig o nwy’n ffoi o lwyfan Elgin bob dydd, gan ddod allan o’r graig o dan y môr. Mae’n cael ei ryddhau i’r awyr o’r llwyfan ar ben y ffynnon, tua 80 troedfedd uwchlaw lefel y môr.

Fe fu’n rhaid i weithwyr Total, y cwmni olew sy’n gweithio llwyfan Elgin, adael pan gafodd y gollyngiad nwy ei ddarganfod – a does neb wedi gweithio arno ers hynny.

Un dewis ar gyfer datrys y broblem yw pwmpio mwd i’r ffynnon, proses sy’n cael ei hadnabod fel “lladd” y gollyngiad. Byddai tasg o’r fath yn golygu y byddai’n rhaid cael pobl i weithio ar y llwyfan.

Dywed Total fod y nwy sy’n dianc yn costio tua miliwn o bunnau’r dydd i’r cwmni.

Effaith amgylcheddol

Mae’r gwaith wedi cychwyn hefyd ar asesu effaith amgylcheddol y gollyngiad nwy.

Dywedodd Gweinidog Amgylchedd yr Alban, Richard Lochhead, a oedd yn cyfarfod cynrychiolwyr Total heddiw:

“Mae’r risg amgylcheddol yn cael ei hasesu i fod y nesaf peth i ddim ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae llywodraeth yr Alban yn parhau’n wyliadwrus ac rydyn ni’n monitro’r sefyllfa’n ofalus am unrhyw ddatblygiadau.”