Mae pedwar o heddweision yng Ngogledd Iwerddon wedi cael eu gwahardd o’u swyddi ar ôl i negeseuon testun hiliol a sectyddol gael eu darganfod.

Mae ymchwiliad mewnol wedi cael ei lansio gan adran safonau proffesiynol Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon ar ôl i’r negeseuon honedig dramgwyddus gael eu darganfod yn ystod ymchwiliad mewnol arall ar wahân.

Dywedodd yr heddlu y byddai’r ymchwiliad yn un trylwyr. Cafodd y pedwar eu gwahardd o’u gwaith ddoe.

Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, Judith Gillespie: “Mae’r neges yn mynd allan yn uchel ac yn glir – fydd yr ymddygiad hiliol a sectyddol hwn ddim yn cael ei oddef.”