Y pel-droediwr Fabrice Muamba Llun: PA
Mae’r pêl-droediwr Fabrice Muamba yn dal i ‘wella’n dda’ o’i drawiad ar ei galon wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn 24 oed heddiw.

Roedd y chwaraewr canol cae Muamba wedi disgyn i’r llawr yn ystod hanner cyntaf gem go-cynderfynol Cwpan FA Bolton yn Tottenham ar Fawrth 17.

Cafodd ei ruthro i’r ysbyty ac fe gymerodd hi 78 munud i gael ei galon i ddechrau gweithio ohoni ei hun unwaith eto.

Mae wedi gwneud cynnydd da ers hynny, ac ar fore ei benblwydd cyhoeddwyd datganiad ar y cyd gan ei glwb, yr ysbyty ac Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Llundain yn dweud ei fod yn dal i wella, er ei fod yn dal mewn uned gofal dwys.