David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud na fydd yna doriadau trethi “mawr” wrth i’r Llywodraeth dorri nôl ar wariant cyhoeddus er mwyn lleihau’r diffyg ariannol.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau cynnig “cymorth” i bobol ond na fyddai hynny’n bosib nes i’r wlad gyrraedd “diwedd y llwybr caled yma”.

Daw ei sylwadau mewn cyfweliad â phapur newydd The Sunday Telegraph cyn y gyllideb ar 23 Mawrth.

Mae’r Canghellor George Osborne yn wynebu galwadau i ysgafnhau’r baich ar y trethdalwr wrth i chwyddiant godi’n gyflym.

Dywedodd Maer Llundain, Boris Johnson, fis diwethaf fod angen i’r Canghellor ei gwneud hi’n glir ei fod yn bwriadu gostwng trethi er mwyn rhoi hwb i’r economi.

Ond mynnodd David Cameron nad oedd yna “gynllun arall” er mwyn torri’r diffyg ariannol.

Byddai gostwng trethi yn golygu bod y toriadau poenus mewn gwariant cyhoeddus yn llai effeithiol, meddai.

“Fe fyddwn i wrth fy modd yn cael torri trethi. Rydw i’n Dori sydd o blaid torri trethi, ond mae’n amhosib ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae hi’n dda i ddim dweud ein bod ni’n mynd i fynd i’r afael â’r diffyg ariannol drwy dorri ar wariant cyhoeddus, ond yna gwneud pethau’n waeth eto drwy dorri trethi.

“Dyw’r symiau ddim yn gwneud synnwyr.

“Ar ddiwedd y  llwybr caled yma fe fydd yna gymorth a threthi is ar gyfer pobol sy’n gweithio’n galed.”