Rhuthrodd pobl i gofrestru platiau ceir ‘12’ newydd yn ystod y mis diwethaf, yn ôl ffigurau swyddogol.

Roedd 372,835 o gofrestriadau ceir newydd ym mis Mawrth, sy’n gynnydd o 1.8% ar ffigurau Mawrth 2011 medd cymdeithas y masnachwyr ceir.

Hyd yn hyn yn ystod 2012 bu 563,556 o gofrestriadau ceir, sy’n gynnydd o 0.9% ar ffigwr 2011.

Dywedodd prif weithredwr cymdeithas y masnachwyr ceir, Paul Everitt, fod y farchnad mewn ceir newydd wedi perfformio’n well na’r disgwyl.

Cododd gwerthiant ceir disel gan 4.7% ym mis Mawrth, a bu cynnydd o 5.6% yn y ceir sy’n rhedeg ar ynni amgen, fel nwy ac olew llysiau. Ond dim on 1.5% o’r holl geir sy’n cael eu gwerthu sy’n rhedeg ar ynni gwahanol i betrol neu ddisel.

Dyma oedd y gwerthwyr gorau ym Mhrydain yn ystod mis Mawrth:

1. Ford Fiesta

2. Vauxhall Corsa

3. Ford Focus

4. Volkswagen Golf

5. Vauxhall Astra

6. Nissan Qashqai

7. Volkswagen Polo

8. Toyota Yaris

9. Peugeot 207

10. BMW 3 Series