Parhau mae’r ymdrechion i geisio datrys anghydfod y gyrwyr tanceri olew a rhwystro’r bygythiad o streic.

Fe fu swyddogion o’r undeb Unite a saith o gwmnïau dosbarthu’n cyfarfod o dan gadeiryddiaeth y gwasanaeth cymodi Acas drwy’r dydd ddoe i geisio taro bargen ynghylch telerau ac amodau’r gyrwyr a materion eraill fel iechyd a diogelwch.

Cafodd y trafodaethau, sy’n cael eu cynnal mewn lleoliad dirgel, eu gohrio yn ystod oriau mân y bore, ond maen nhw wedi ailddechrau’r bore yma.

Yn y cyfamser, dangosodd arolwg o Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) fod 82% yn ofni y byddai streic danwydd yn cael effaith negyddol ar eu busnes.

Mae’r IoD yn pwyso ar y ddwy ochr yn yr anghydfod i setlo eu gwahaniaethau’n gyflym a heb streic, gan rybuddio y byddai’n tarfu’n ddrwg iawn ar yr economi.

Meddai Simon Walker, cyfarwyddwr cyffredinol yr IoD: “Mae’n haelodau ni’n bryderus iawn am yr effaith y bydd y streic yma’n ei gael ar eu busnesau, sy’n ychwanegu ansicrwydd at hinsawdd economaidd sydd eisoes yn aml.

“Y peth olaf y mae ar fusnesau ei angen ar y funud yw i staff fethu â mynd i’r gwaith a nwyddau’n cael eu hatal.

“Mae’n amlwg y byddai’r streic yn gwneud llawer o ddifrod ac yn tarfu’n ddrwg ar bobl sydd eisoes yn gweithio’n hynod o galed i gadw olwynion yr economi i droi.”