Gall teuluoedd sydd â phlant fod ar eu colled o £511 y flwyddyn o achos newidiadau treth a budd-daliadau, yn ôl sefydliad ariannol.

Mae canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, wedi dweud bod yr effaith sy’n cael ei broffwydo gan y Sefydliad Astudiaethau Ariannol yn “argyfyngus”, gyda hyd at filiwn o deuluoedd yn colli allan ar fod yn gymwys am gredydau treth yn y flwyddyn ariannol newydd.

“Y penwythnos yma mae teuluoedd ar incwm bychan yn wynebu argyfwng credydau treth,” meddai Ed Balls.

“Yn hytrach na thorri trethi’r rheini sy’n ennill mwyaf a rhoi toriad treth gwerth £1.6 biliwn ar bensiynau’r enillwyr mawr, dylai’r Llywodraeth roi stop ar y newidiadau annheg hyn”.

Cyfeiriodd Llafur at ffigurau Llywodraeth Prydain sy’n awgrymu gall 850,00 o deuluoedd golli eu credyd treth – sy’n werth tua £545 y flwyddyn – o yfory ymlaen.

Tra bod dadlau o hyd ynghylch effaith y Gyllideb y mis diwethaf, honodd y Trysorlys bod teulu cyffredin ar ei ennill o £5.50 yr wythnos.

‘Elwa’

Bydd llawer mwy o deuluoedd yn elwa o’r Gyllideb na fydd ar eu colled diolch i godi’r trothwy treth, medd Ysgrifennydd Economi’r Trysorlys, Chloe Smith.

Ond mae ymgyrchwyr gwrth-dlodi  wedi dynodi bod yfory’n ‘Ddydd Gwener Du’ wrth i doriadau ar wario ddechrau cael effaith.

“Mae’n rhyfeddol mai’r bobl sy’n cyfrannu leiaf i leihau diffyg ariannol y wlad yw’r bobl gyfoethocaf,” meddai Prif Weithredwr elusen Child Poverty Action Group, Alison Garnham.

“Teuluoedd cyffredin a phlant sy’n cario baich mwyaf wrth inni geisio lleihau’r diffyg ariannol.

“Bydd rhai teuluoedd yn wynebu brwydr i dalu am bethau sylfaenol fel bwyd, dillad a biliau’r cartref”, meddai Alison Garnham.