Caeredin
Mae cyn-drysorydd y Blaid Geidwadol, Peter Cruddas, wedi ei ddal ar gamera yn dweud bod angen i’r Ceidwadwyr roi’r argraff eu bod nhw eisiau cadw’r Alban yn y Deyrnas Unedig.

Roedd hynny’n bwysig hyd yn oed os nad oedden nhw mewn gwirionedd eisiau gwneud hynny, meddai.

Cafodd ei ffilmio yn gwneud y sylwadau gan newyddiadurwyr cudd y Sunday Times.

Dywedodd yr SNP bod y fideo “yn daranfollt” i’r Ceidwadwyr. Yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog, Nicola Sturgeon, mae’n dangos fod y Ceidwadwyr “yn ffugio eu gwrthwynebiad tuag at annibyniaeth”.

Ymddiswyddodd Peter Cruddas ddydd Llun ar ôl cyhoeddi fideo sy’n awgrymu iddo gynnig mynediad at y Prif Weinidog am rodd £200,000 i’r Blaid Geidwadol.

“Mae’n rhaid i ni gael ein gweld yn brwydro i gadw’r Deyrnas Unedig ynghyd,” meddai Peter Cruddas. “Hyd yn oed os nad ydyn ni’n cytuno â hynny.

“Yn y pen draw, os yw’r Sgotiaid yn dweud eu bod nhw eisiau annibyniaeth, bydd modd i ni ddweud nad dyna oedden ni ei eisiau, ac nad oes modd iddyn nhw gael hyn a’r llall.”

Mae’r fideo hefyd yn awgrymu iddo alw’r Prif Weinidog, Alex Salmond, yn “Sgotyn gwallgo’.”

Dywedodd Nicola Sturgeon bod y fideo yn brawf fod y Ceidwadwyr yn ffugio eu gwrthwynebiad at annibyniaeth “er mwyn sicrhau’r cytundeb orau yn ddiweddarach”.

“Mae Cruddas yn dangos nad yw’r Ceidwadwyr yn credu yn unrhyw beth ond amddiffyn buddion San Steffan.

“Maen nhw eisoes yn paratoi ar gyfer colli’r refferendwm.”

Does dim sylw eto gan y Blaid Geidwadol.