Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl i ddyn 25 oed gael ei drywanu i farwolaeth y tu allan i dafarn yn ne Llundain.

Galwyd heddlu Scotland Yard i dafarn y Ship ar Stryd Fawr Croydon toc ar ôl dau o’r gloch bore heddiw lle wnaethon nhw ddarganfod dau ddyn wedi eu trywanu.

Roedd parafeddygon hefyd yn bresennol ond ar waetha eu hymdrechion, bu farw un dyn yn y fan a’r lle.

Mae ei deulu agosaf wedi cael gwybod am ei farwolaeth, ac mi wnaeth archwiliad post mortem gymryd lle heddiw.

Aethpwyd â’r ail ddyn i’r ysbyty ac mae mewn cyflwr sefydlog.

Mae’r heddlu wedi arestio dyn 30 oed ac mae’n parhau i fod yn y ddalfa.