George Galloway yn ymgyrchu yn Bradford
Mae aelod seneddol newydd Gorllewin Bradford, George Galloway, wedi cymysgu braidd wrth sôn am ei etholaeth mewn sylw ar Twitter.

Wrth drydar am ei fuddugoliaeth ysgubol, pan drechodd ymgeisydd y Blaid Lafur o 10,000 o bleidleisiau, dywedodd George Galloway, a oedd yn cynrychioli’r blaid Respect yn yr etholiad, ei fod yn hynod o flinedig ond yn hapus yn dilyn ei lwyddiant yn Blackburn!

Mae llawer o bobl wedi bod yn trydar gan ei feirniadu am y camgymeriad, yn cynnwys y sylwebydd gwleidyddol Andrew Neil. “Ydy o wedi ymddiswyddo o Bradfod yn barod?” holodd.